Handwriting poem for Foundation Phase:
Fy ffrindiau i
Un caneri a dwy lygoden,
Tri mochyn cwta, pedair cwningen…
Pum corryn mawr a chwech o bysgod,
Saith aligator, wyth o lyffantod…
Naw anaconda, deg Pecinî:
Faint o ffrindiau sy’n byw yn tŷ ni?
Hedd ap Emlyn
Handwriting poem for Key Stage 2:
Parti
Parti, parti,
Dw i’n dwlu ar fwyd parti.
Parti, parti,
Rhowch fwy o fwyd i mi.
Un pecyn o greision,
Dwy frechdan ham,
Tair tanjerîn,
Pedair brechdan jam…
Pum pizza poeth,
Chew diod hyfryd,
Saith sosej tew –
Dw i’n dal yn llwglyd!
Wyth cacen flasus –
Dw i’n dechrau chwysu,
Naw sgŵp o hufen iâ.
Deg…
BLYYYYYYCH!
O na… dw i wedi chwydu!
Aled Richards
Examples of graffiti: