Menu
Proud to be a community school, striving for success for all.
Home Page

Key Stage 2 Eisteddfod 2020 Handwriting Competition

Jac y Do

 

Mi welais Jac y Do

yn eistedd ar ben to.

Mi fu’n eistedd yno am oesoedd maith

heb godi adain na symud chwaith.

Roedd yr adar eraill trwy’r dydd yn hedfan,

ond doedd y ‘deryn hwn ddim yn gallu, druan.

Roedd o yno’n eistedd bob awr o’r dydd

a’r adar eraill yn hedfan yn rhydd.

 

Ond digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn

uwchben y to, rhyw un prynhawn…

Mi welais Jac y Do,

oedd yn eistedd ar ben to,

yn llawen i gyd ac yn uchel ei gân

yn hedfan ymhlith yr adar mân.

Roedd wedi edrych ar bob un arall,

roedd wedi dysgu, ac wedi deall.

 

Y diwrnod wedyn, wrth edrych fyny,

mi welais i rhywbeth i’m rhyfeddu…

Doedd dim un Jac y Do

yn eistedd ar ben to!

 

Tudur Dylan Jones

Top